Cyflog Graddfa 3 SCP11-16 (£15,807 - £17,419 pro rata)

Yn dilyn ail strwythuro mewnol rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Gweinyddol i ddechrau yn mis Medi 2017.
Mae hon yn swydd parhaol 37 awr yr wythnos (8:00-16:00) yn ystod y tymor un unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Lleolir Ysgol Plasmawr yn y Tyllgoed yng ngogledd orllewin Caerdydd. Mae gan yr ysgol dros 1000 o ddisgyblion a dros 100 o staff.
Rydym yn chwilio am berson trefnus, brwdfrydig â thechnegol ei sgiliau, i weithio mewn swyddfa ysgol brysur iawn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda tîm gweinyddol bach ac effeithiol sydd yn cynnig cymorth gweinyddol i’r ysgol gyfan. Disgwylir hyblygrwydd o ran dyletswyddau, bydd angen i’r person llwyddiannus gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Noder bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu cyfrannau at swyddfa a fydd yn gweithredu gan amlaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Disgrifiad Swydd
Manyleb Person
Ffurflen Gais
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr sy’n amlinellu eich profiad blaenorol a’ch cymwysterau ar gyfer y swydd at sylw Mr John Hayes, Pennaeth.
Dyddiad cau: 11.07.17

Am wybodaeth bellach am y swydd hon dylid cysylltu gyda Mrs Sandra Jones (Rheolwr Busnes) 029 20 405 499 neu drwy e-bost i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Term Dates

Autumn Term 2017-18:
Monday September 4 - Friday December 22
Half term:- 30/10/17 - 03/11/17

Spring Term 2017-18:
Monday January 8 - Thursday March 29
Half term:- 19/02/18 - 23/02/18

Summer Term 2017-18:
Monday April 16 - Friday July 24
Half term:- 28/05/18 - 01/06/18

Cardiff Council School Term Dates

Go to top